Skip to content

Masnach Deg

Mae cynnyrch sy'n Fasnach Deg yn golygu bod safonau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol wedi'u gosod y cwmnïau a'r ffermwyr a'r gweithwyr a dyfodd y cynhyrchion. Mae'n golygu y bydd y gweithwyr hynny wedi cael prisiau gwell ac wedi cael amodau gwaith gweddus. Mae'r marc Masnach Deg yn sicrhau bod cynaliadwyedd lleol, a thelerau masnach teg i ffermwyr a gweithwyr yn y byd sy'n datblyg yn cael eu cefnogi.

Mae’r rhain i gyd yn werthoedd y credwn fel Prifysgol y dylid eu cynnal, ac rydym yn ymgyrchu'n weithredol dros gael y math hwn o gefnogaeth i ffermwyr a gweithwyr yn gyffredinol. Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd ac Undeb Myfyrwyr Metropolitan Caerdydd wedi bod yn cefnogi ac yn gwerthu cynhyrchion Masnach Deg ers 2003 ac wedi ennill achrediad Masnach Deg yn 2007 gan Sefydliad Masnach Deg y DU. Dyfarnwyd statws Masnach Deg i ni yn fwyaf diweddar yn 2024 o dan y meini prawf wedi'u diweddaru.

Mae Met Caerdydd yn cefnogi Masnach Deg drwy gydol bob blwyddyn, gan gynnwys:

  • Cael Grŵp Llywio Masnach Deg sy'n cwrdd bob tymor
  • Gwerthu cynhyrchion Masnach Deg ym mhob siop fanwerthu ac arlwyo‘r Brifysgol ac Undeb y Myfyrwyr
  • Dathlu a hyrwyddo Pythefnos Masnach Deg bob blwyddyn
  • Gweini te a choffi Masnach Deg mewn lletygarwch

Yn 2026, rydym wedi parhau i adeiladu ar yr ymrwymiad hwn drwy ystod o gyflawniadau pwysig. Te a choffi Masnach Deg yw'r cynnig safonol ar draws y campws, ac mae ein siop Stiwdio Argraffu yn gwerthu nwyddau wedi'u gwneud â chotwm Masnach Deg. Rydym hefyd wedi cynnal digwyddiadau diddorol i godi ymwybyddiaeth o gyfiawnder masnach, ochr yn ochr ag ymdrechion cynyddol i ymgorffori Masnach Deg a chynaliadwyedd yn y cwricwlwm trwy waith y Tîm Gweithredu ar yr Hinsawdd.

I gael trosolwg llawn o’n cynnydd, ein cyflawniadau, a’n blaenoriaethau ar gyfer y dyfodol, darllenwch einHadroddiad Blynyddol Masnach Deg 2025–2026. Mae ein Cynllun Gweithredu SMART hefyd wedi'i ddiweddaru i adlewyrchu ein nodau a'n camau gweithredu diweddaraf.

I gael mwy o wybodaeth am beth yw Masnach Deg a pham rydyn yn credu y dylech gefnogi cynhyrchion Masnach Deg, ewch i wefan y Sefydliad Masnach Deg.

Mae ein Polisi Masnach Deg ar gael ar yr Hyb Polisi. Os hoffech chi gymryd rhan mewn gweithgareddau Masnach Deg ym Met Caerdydd, e-bostiwch sustainability@cardiffmet.ac.uk

Rydym yn croesawu eich syniadau a'ch cyfraniadau!