Skip to content

Amgylchedd a Diwylliant Ymchwil

Ym Met Caerdydd, ein nod yw gwella ansawdd, cyrhaeddiad ac effaith ein hymchwil yn barhaus, gan hyrwyddo llesiant cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol ar gyfer dyfodol tecach a gwyrddach. Galluogir hyn trwy Amgylchedd Ymchwil ac Arloesi cefnogol a chynhwysol, sy'n hwyluso datblygiad academaidd a phroffesiynol.

Mae llywodraethu ymchwil, uniondeb, ac egwyddorion moeseg yn sail i'n diwylliant a'n hamgylchedd ymchwil. Mae ein hymrwymiad i asesu ymchwil yn dryloyw ac yn gyfrifol, ynghyd â'n cefnogaeth ar gyfer ymchwil agored, yn ein helpu i ehangu mynediad at wybodaeth a chreu effaith ystyrlon a pharhaol i bobl a'r amgylchedd.

P'un a ydych chi'n Ymchwilydd Doethurol, yn Ymchwilydd Gyrfa Cynnar neu'n Athro profiadol, mae Met Caerdydd yn cynnig cyfoeth o gefnogaeth i'ch galluogi i ddatblygu'ch gyrfa. Mae’r cymorth hwn yn cynnwys mentora ac ymgysylltu â chymunedau, rhaglenni hyfforddi wedi’u teilwra, a chyllid a buddsoddiad, ynghyd â llwyfannau i arddangos eich ymchwil ac arloesedd.

Rydym yn gweithio i gefnogi pob cam o’ch taith ymchwil ac arloesi, o feithrin syniadau i ddarparu atebion arloesol ac effeithiol – a’r holl gamau rhyngddynt, gan gynnwys cymorth ar gydweithio ag academyddion eraill, diwydiannau a menter.