Ffioedd Dysgu
Dewch o hyd i wybodaeth am ffioedd israddedig, ol-raddedig, graddau ymchwil a rhyngwladol. Dysgwch sut rydym yn gosod eich ffioedd, beth mae eich ffioedd yn ei chynnwys, a sut rydym ni'n cyfrifo eich ffioedd dysgu.
- Ffioedd Dysgu ar gyfer Rhaglenni Llawn a Rhan-Amser – Blwyddyn Academaidd 2026/2027
- Ffioedd Dysgu ar gyfer Rhaglenni Llawn a Rhan-Amser – Blwyddyn Academaidd 2025/2026
Costau Cwrs Ychwanegol
Costau ychwanegol yw'r treuliau gorfodol neu ddewisol, yn ychwanegol at ffioedd dysgu, y mae'n rhaid i fyfyrwyr dalu amdanynt i gymryd rhan lawn a chwblhau eu hastudiaethau. Mae hyn yn cynnwys pethau fel offer, tripiau, lleoliadau a gwiriadau DBS.
Mae gan rhai o'n cyrsiau costau ychwanegol, sydd yn ddibynol ar lefel yr addysg a pha mor hir rydych chi'n astudio â ni.
Sut ydy ni'n cyfrifo eich ffioedd?
Dewch o hyd i wybodaeth am sut rydym ni'n cyfrifo ffioedd ar gyfer myfyrwyr cartref a rhyngwladol sy'n astudio ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd.
Asesu Statws Ffioedd
Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn defnyddio'r wybodaeth a ddarperir gennych yn eich ffurflen gais i bennu lefel y ffioedd a godir arnoch am eich dewis gwrs. Rydym yn galw hyn yn Statws Ffioedd ac rydym yn dosbarthu myfyrwyr fel naill ai Statws Cartref neu Ryngwladol.
Hepgor Ffioedd
Gyda chefnogaeth y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Medr), rydym yn cynnig cynllun hepgor ffioedd (yn amodol ar argaeledd) i gefnogi myfyrwyr israddedig rhan-amser na fyddai ganddynt fynediad i addysg uwch fel arall. Bydd ffioedd cwrs myfyrwyr cymwys yn cael eu talu gan Medr.